Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

7th February 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Dydd Llun:

* Bydd casgliad Rags to Riches heddiw. *

Clwb Lles ar gyfer disgyblion CA2 yn ystod amser cinio.

Clwb chwaraeon yr Urdd ar gyfer plant blwyddyn 2 rhwng 3:30 a 4:30.
(Mae'r clwb hwn yn cael ei redeg gan yr Urdd yn allanol.)

* Cofiwch ddod draw i'r cyfarfod ymgynghori rhwng 4pm a 6pm a fydd yn eich galluogi i ddysgu mwy am ddatblygiadau i addysg cyfrwng Cymraeg yn Nhorfaen a'i oblygiadau i Ysgol Gymraeg Cwmbrân. Sesiwn galw heibio yw hwn ac ni fydd yn cymryd llawer o'ch amser. *

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer plant blwyddyn 3 rhwng 3:30 a 4:30. (50c)

Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.

* Cystadleuaeth Hoci ar ol ysgol yn Stadiwm Cwmbrân ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. *
(3:30 - 5)

Dydd Mercher:

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)
(Rydym wedi penderfynu cynnig y clwb i ddisgyblion blynyddoedd 3 - 6 o hyn ymlaen.)

Dydd Iau:

Gweithdai creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 amser cinio.

Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 5 gyda Chasnewydd prynhawn 'ma.
(Dosbarth Mr Price a disgyblion blwyddyn 5 Miss Heledd Williams.)

Clwb pêl-droed ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:

* Gall disgyblion dosbarth Mr Bridson wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Ionawr. *

Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss W Williams.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn helpu disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Coed Eva gyda'u gwaith Cymraeg prynhawn 'ma. (1:15-2:15)

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr