Ein Diwrnod Coch i Mind Cymru:

Ein Diwrnod Coch i Mind Cymru:

6th February 2019

Rydym wedi bod yn dathlu ymrwymiad ein holl ddisgyblion gyda'n Her Ionawr heddiw.

Daeth ein Her Ionawr o 20 munud o ymarfer corff am 30 diwrnod i ben heddiw a gorffenon ni gyda Diwrnod coch ar gyfer Mind Cymru. Mae ein disgyblion, ein teuluoedd a'n staff i gyd wedi ymrwymo'n llwyr i'r her.

Hefyd, gwnaeth y Cyngor Ysgol 'fflapjacks' a smwddis heddiw a gwerthon nhw rhain a gwneud elw o £63 a fydd hefyd yn mynd tuag at Mind Cymru.

Daeth Claire a Georgie o 'Turn'd Up fitness ' i gynnal sesiwn ddawns gyda disgyblion CA2, aelodau o staff a rhieni/teidiau a neiniau heno a chodwyd £55 ychwanegol arall i Mind Cymru.

Diolch eto i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at Mind hyd yn hyn-byddwn yn casglu'r arian ac unrhyw ffurflenni noddi tan ddydd Llun.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr