Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

31st January 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Patrwm Iaith yr Wythnos yw 'Gwelais i ....'

Wythnos Iechyd Meddwl Plant.
(Cliciwch ar y wefan isod er mwyn gweld mwy o wybodaeth am yr wythnos.)

Dydd Llun:

Clwb Lles ar gyfer disgyblion CA2 yn ystod amser cinio.

Bydd rhai o'n disgyblion yn helpu disgyblion o Ysgol Nant Celyn ac Ysgol Henllys gyda'u Cymraeg brynhawn 'ma.

Clwb chwaraeon yr Urdd at gyfer plant blwyddyn 2 rhwng 3:30 a 4:30.
(Mae'r clwb hwn yn cael ei redeg gan yr Urdd yn allanol.)

Dydd Mawrth:

Diwrnod Diogelwch ar y we 2019:
(Am fwy o wybodaeth am y diwrnod, gweler y linc isod.)

Bydd PC Smith yn cynnal gwasanaeth ar ddiogelwch ar y we gyda disgyblion CA2 bore 'ma.
(09:30 - 10:30)

Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer plant blwyddyn 3 rhwng 3:30 a 4:30. (50c)

Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.

Dydd Mercher:

*Diwrnod Coch i Mind Cymru: Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad coch heddiw fel diweddglo i'n Her Ionawr. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad tuag at Mind Cymru. *
(Gweler y llythyr yn rhan 'Llythyron Adref' y wefan.)

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday)
Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)

* Prynhawn lles - ein thema yr wythnos hon yw 'Wythnos Iechyd Meddwl Plant.' *

Sesiwn ddawnsio ar gyfer disgyblion CA2 (a'u rhieni / gwarchodwyr os ydynt yn dymuno.)
3:45 - 4:45 yn neuadd yr ysgol.
£1 y person a bydd yr arian yn mynd tuag at ein casgliad i Mind Cymru.

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)

Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:

Gweithdai creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 amser cinio.

Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 5 gyda Chasnewydd prynhawn 'ma.
(Dosbarth Mr Price a disgyblion blwyddyn 5 Miss Heledd Williams.)

Clwb pêl-droed ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:

Dydd Miwsig Cymru:
(Am fwy o wybodaeth ar y diwrnod hwn, gweler y wefan isod.)

Cyngerdd ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes.
(Neuadd yr ysgol: 09:30 - 10:30. Croeso i rieni / gwarchodwyr plant blwyddyn 2 Miss Hughes.)

Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn helpu disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Coed Eva gyda'u gwaith Cymraeg prynhawn 'ma. (1:15-2:15)

Diolch.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr