Gala Nofio Cenedlaethol yr Urdd:

Gala Nofio Cenedlaethol yr Urdd:

26th January 2019

Aeth tri disgybl i gymryd rhan yn y Gala Nofio Cenedlaethol yng Nghaerdydd heddiw.

Seren oedd y cyntaf i gystadlu y bore 'ma ac fe gynrychiolodd hi Gwent yn y ras rydd a'r ras pili-pala i ddisgyblion blynyddoedd 3 a 4. Daeth Seren yn 1af gyda'r pili-pala ac yn ail gyda'r ras rhydd. Da iawn ti!

Daeth Ellis yn drydydd yn y ras gefn ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 ac yn 4ydd yn y ras rydd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 - ardderchog.

Daeth Carys yn gyntaf gyda'r pili pala ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 ac yn gyntaf gyda'r ras gymysg unigol i ferched ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 - gwych!

Rydym yn falch iawn o'r disgyblion i gyd - da iawn chi.


^yn ôl i'r brif restr