Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

17th January 2019

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Band yr Wythnos yw Blodau Papur. Byddwn yn gwrando ar 'Llygaid Ebrill' a 'Tyrd ata' i'.
Patrwm Iaith yr Wythnos yw 'Ga' i ....?'

Ein thema lles ar gyfer yr wythnos hon, i gyd-fynd gyda'r Her Ionawr, yw 'bod yn sylwgar'.

Dydd Llun:

Diwrnod Crefyddau'r Byd: Byddwn yn edrych ar wahanol grefyddau'r byd heddiw.

Cynllun gwên - Farnais fflworid i blant y Cyfnod Sylfaen.

Bydd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn cymryd rhan mewn sesiwn Taekwondo yn ystod y dydd heddiw.

Clwb Lles ar gyfer disgyblion CA2 yn ystod amser cinio.

Clwb chwaraeon yr Urdd at gyfer plant blwyddyn 2 rhwng 3:30 a 4:30.
(Mae'r clwb hwn yn cael ei redeg gan yr Urdd yn allanol.)

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb gwnïo ar ôl ysgol ar gyfer plant blwyddyn 3 rhwng 3:30 a 4:30. (50c)

Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.

Dydd Mercher:

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Bydd Miss James a disgyblion blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Gwynllyw yn dod i siarad gyda disgyblion blwyddyn 6 heddiw.

Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Bydd disgyblion dosbarthiadau Miss Westphal, Miss Broad a Mr Price yn ymweld â’r Mosg yng Nghasnewydd heddiw.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)

Gwasnaeth Dân yn ymweld â Blwyddyn 2 a 5 (Miss H Williams).

* Prynhawn lles - ein thema yr wythnos hon yw 'bod yn sylwgar'. *

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)

Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:

Gweithdai creadigol Ffa La La ar gyfer plant y feithrin, derbyn a blwyddyn 1.

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 amser cinio.

Prynhawn agored i rieni Meithrin a Derbyn o 2 o'r gloch ymlaen.
(Gweler y llythyr yn rhan 'Llythyron Adref' y wefan.)

Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 5 gyda Chasnewydd prynhawn 'ma.
(Dosbarth Mr Price a disgyblion blwyddyn 5 Miss Heledd Williams.)

Clwb pêl-droed ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Disgo Santes Dwynwen y Gymdeithas Rieni ac Athrawon.
6-7. (£1)

Dydd Gwener:

Bydd staff o Wynllyw yn dod i gynnal gweithdai rygbi gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 2 heddiw.

Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.

Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn helpu disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Coed Eva gyda'u gwaith Cymraeg prynhawn 'ma. (1:15-2:15)

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr