Y 'parkrun' lleol:

Y 'parkrun' lleol:

9th January 2019

Derbyniodd disgyblion CA2 wybodaeth am y 'parkrun' lleol yn y gwasanaeth bore 'ma.

Fel rhan o'n Her Ionawr, rydym yn ceisio annog mwy o ddisgyblion i gymryd rhan mewn chwaraeon ac yn enwedig chwaraeon yn yr ardal leol.

Heddiw, daeth Fiona Cross, gwirfoddolwr i'r parkrun lleol, i siarad â'r disgyblion am y parkrun a'r manteision o gymryd rhan yn y ras. Cynhelir y ras bob wythnos - mae ras 5k yn digwydd bob dydd Sadwrn a ras 2k i blant yn digwydd bob dydd Sul. Mae'n rhad ac am ddim i gymryd rhan ac mae'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr.

Am ragor o wybodaeth am y 'parkruns' lleol, cliciwch ar y dolenni isod.

Diolch yn fawr!


Related Links


^yn ôl i'r brif restr