Her Ionawr 2019:

Her Ionawr 2019:

7th January 2019

Rydym yn gyffrous i lansio ein her ar gyfer mis Ionawr yfory.

Fel rydych yn gwybod, rydym wedi penderfynu cyflwyno her mis Ionawr a gobeithiwn yn fawr y byddwch yn ymuno gyda ni. Y bwriad yw i gael pawb yn cymryd rhan mewn 20 munud o weithgaredd corfforol bob dydd am 30 diwrnod, o ddydd Mawrth, Ionawr yr 8fed tan ddydd Mercher, Chwefror 6ed.

Mae’r her hon hefyd yn cyd-fynd gyda her ‘Coch’ mis Ionawr Mind Cymru ac ymgyrch ‘Pum ffordd syml i deimlo’n iachach a hapusach’ Gwent. Rydym yn gobeithio codi arian ar gyfer Mind Cymru (elusen sy’n cefnogi iechyd meddwl) trwy wneud yr her yn un noddedig. (Ceir ffurflen noddi yn y pecyn hwn.) Byddwn yn cynnal diwrnod coch fel diweddglo i’n her ar ddydd Mercher, Chwefror 6ed a gall y disgyblion ddod i’r ysgol mewn dillad coch os ydynt yn dymuno.

Ein gobaith yw i gael pawb yn gwneud gweithgaredd corfforol am ugain munud bob dydd a thracio’r gweithgareddau yn defnyddio’r daflen gofnodi sydd yn y pecyn hwn. Byddwn yn gwneud rhai sesiynau addysg gorfforol yn yr ysgol ond rydym hefyd yn annog y disgyblion, a chi, i wneud gweithgareddau adref a gwneud pethau yn yr ardal leol e.e. y Parkrun. (Gweler y daflen syniadau.)

Yn ystod y mis, byddwn yn edrych ar thema wahanol bob wythnos sy’n cyd-fynd gydag ymgyrch pum ffordd at les Gwent. Y pedair thema fydd: diet cytbwys / bod yn actif / bod yn sylwgar / rhoi.

Os ydych yn rhoi unrhyw luniau o’r disgyblion a’r teulu yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd addysg gorfforol ar gyfrif Twitter yr ysgol, byddwn yn defnyddio’r hashnod, ‘herygc’.

Ceir copi o bob llythyr yn y rhan 'Llythyron Adref'.

Diolch yn fawr a phob lwc!


Related Links


^yn ôl i'r brif restr