Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

13th December 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

* Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. *

Dydd Llun:

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Wynllyw rhwng 10 a 12 heddiw er mwyn perfformio yn y gyngerdd Nadolig. (Bydd y disgyblion yn ôl mewn amser ar gyfer cinio ysgol.)

Clwb Lles ar gyfer disgyblion CA2 yn ystod amser cinio.

Dydd Mawrth:

* Cyngerdd Nadolig y Cyfnod Sylfaen *

10 am - rhieni / gwarchodwyr Meithrin, Dosbarth Derbyn Miss Thomas, Blwyddyn 1/Derbyn Miss Sheppeard a Blwyddyn 1 Mrs Dalgleish.

2 yp - rhieni / gwarchodwyr Meithrin y prynhawn, Blwyddyn 2/1 Miss Williams a Blwyddyn 2 Miss Hughes.

Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Dydd Mercher:

Bydd disgyblion blwyddyn 4 yn mynd i Lyfrgell Cwmbrân heddiw er mwyn derbyn carden aelodaeth i'r llyfrgell.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Dydd Iau:

Gall y disgyblion wisgo dillad parti i’r ysgol os ydynt yn dymuno.

Bydd y disgyblion yn cael bwyd parti fel cinio ysgol heddiw. Bydd Arlwyo Torfaen yn darparu'r bwyd. Os nad ydy eich plentyn eisiau bwyd parti, dylai ddod â phecyn cinio i'r ysgol.

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis - sesiwn hwyl.

Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 6 gyda Chasnewydd.

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.

* Bydd yr ysgol yn cau at gyfer pythefnos o wyliau heddiw. Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol at ddydd Mawrth, Ionawr 8fed. *

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr