Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

6th December 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

* Hon fydd yr wythnos olaf ar gyfer clybiau ar ôl ysgol, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. *

Band yr Wythnos yw Allfa. Byddwn yn gwrando ar 'Gwenwyn' a 'Creadur'.
Patrwm Iaith yr Wythnos yw 'Hoffwn i ....'

Dydd Llun:

Clwb Lles ar gyfer disgyblion CA2 yn ystod amser cinio.

Dydd Mawrth:

* Cyngerdd Nadolig Cyfnod Allweddol 2 *
10 am - rhieni / gwarchodwyr blynyddoedd 3 a 4.
2 yp - rhieni / gwarchodwyr blynyddoedd 5 a 6.

Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb coginio ar ôl ysgol ar gyfer plant blwyddyn 2 dosbarth Miss Wena Williams.
(3:30 - 4:30)

Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.

Dydd Mercher:

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

* Cinio Nadolig: Bydd cinio Nadolig yn cael ei weini heddiw - pris arferol. *

Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)

* Prynhawn lles - beth yw iechyd a lles yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân? *

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)

Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:

Bydd disgyblion CA2 i gyd yn mynd i Pets at Home, Cwmbrân, yn ystod y dydd heddiw.
(Gweler y llythyr yn adran 'Llythyron Adref'.)

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 6 gyda Chasnewydd.

Clwb rygbi ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

* Noson ffilm y G.Rh.A rhwng 6 ac 8 yn neuadd yr Ysgol. Gallwch adael y plant yn yr Ysgol gan fod llawer o oruwchwylwyr. Y pris ar gyfer bob plentyn yw £3, sy'n cynnwys ffilm, diod a phopcorn. *

Dydd Gwener:

* Diwrnod Siwmper Nadolig / addurn Nadolig / gwisg anffurfiol *
Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o eitem ar gyfer y banc bwyd lleol.

Meithrin - Bisgedi
Miss Thomas - Ffrwythau mewn tin
Miss Sheppeard - Ffrwythau mewn tin
Mrs Dalgleish - Brwsh dannedd
Miss W Williams - Brwsh dannedd
Miss Hughes - Past Dannedd
Miss Westphal - Siampŵ
Miss Broad - Siampŵ
Mrs Lewis - Sebon cawod
Miss H Williams - Sebon cawod
Mr Price - sebon
Mr Bridson - Cwstard neu pwdin reis
Miss Passmore - Cwstard neu pwdin reis

Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.

Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn helpu disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Coed Eva gyda'u gwaith Cymraeg prynhawn 'ma. (1:15-2:15)

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr