Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

29th November 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Band yr Wythnos yw 'Manw'. Byddwn yn gwrando ar ‘Petra'.

Patrwm Iaith yr Wythnos yw ‘y/yr ..... i gyd.' (nid 'gyd o')

Dydd Llun:

Clwb Lles ar gyfer disgyblion CA2 yn ystod amser cinio.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Bydd disgyblion dosbarth Mr Bridson yn mynd i weld 'Wreck it Ralph' yn y sinema bore 'ma gan fod y dosbarth wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Tachwedd.

Bydd disgyblion dosbarth Miss Heledd Williams yn ymweld ag Eglwys Sant Gabriel bore 'ma.

Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb coginio ar ôl ysgol ar gyfer plant blwyddyn 2 dosbarth Miss Wena Williams.
(3:30 - 4:30)

Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.

Dydd Mercher:

** Diwrnod gwisg anffurfiol: Mae'r G.Rh.A. yn gofyn yn garedig am gyfraniad o losin / siocled neu gyfraniad ariannol tuag at y Ffair Nadolig. **

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)

* Noson ffilm y G.Rh.A rhwng 6 ac 8 yn neuadd yr Ysgol. Gallwch adael y plant yn yr Ysgol gan fod llawer o oruwchwylwyr. Y pris ar gyfer bob plentyn yw £3, sy'n cynnwys ffilm, diod a phopcorn. *

Bydd dewis o ffilm 'Santa Paws' neu 'Nativity 2'.

Dydd Iau:

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 6 gyda Chasnewydd.

Clwb rygbi ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.

Bydd rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn helpu disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Coed Eva gyda'u gwaith Cymraeg prynhawn 'ma. (1:15-2:15)

** Ffair Nadolig yn neuadd yr Ysgol o 3:30 ymlaen. Gobeithio eich gweld chi yno. **

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr