Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

22nd November 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Band yr Wythnos yw 'Lewys'. Byddwn yn gwrando ar ‘Gwres’ a ‘Camu’n ôl’.
Patrwm Iaith yr Wythnos yw ‘weithiau’, nid ‘rhai weithiau’.
Gwyn yw lliw'r wythnos ar gyfer plant y feithrin.

Dydd Llun:

Clwb Lles ar gyfer disgyblion CA2 yn ystod amser cinio.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Bydd PC Thomas yn dod i gynnal gweithdy cyffuriau gyda disgyblion blwyddyn 6 heddiw, yn dilyn y ddrama 'Adenydd i hedfan'.

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn cerdded i Eglwys Sant Gabriel bore 'ma i atgyfnerthu ein gwaith Addysg Grefyddol.

Clwb Celf ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Bydd Bardd Plant Cymru, Casia Wiliam, yn cynnal gweithdy gyda disgyblion dosbarth Miss Passmore prynhawn 'ma.

Clwb coginio ar ôl ysgol ar gyfer plant blwyddyn 2 dosbarth Miss Wena Williams.
(3:30 - 4:30)

Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.

Dydd Mercher:

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Clwb Gwyddoniaeth ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yn ystod amser cinio.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)

** Prynhawn Lles: Y thema ar gyfer ein prynhawn lles heddiw yw'r corff / trafod pants a chadw'n ddiogel. **
(Am fwy o wybodaeth ar wers trafod pants yr NSPCC, gweler y wefan isod.)

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)

Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Gweithdy LEGO / cylchredau trydan ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4.

Gala nofio'r Urdd yng Nghanolfan Hamdden Pont-y-pŵl.
Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr - bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion os gwelwch yn dda.

Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 6 gyda Chasnewydd.

Clwb rygbi ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.

Diolch.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr