Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

8th November 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

** Wythnos Gwrth-fwlio. **

Band yr Wythnos yw 'Mr'. Byddwn yn gwrando ar 'Hen ffrind' ac 'Y pwysau'.
Patrwm Iaith yr Wythnos yw'r gwahaniaeth rhwng 'oedd' a 'roedd'.
Du yw lliw'r wythnos ar gyfer plant y feithrin.

Dydd Llun:

Diwrnod Gwyddoniaeth: Bydd y disgyblion yn gwneud gwaith Gwyddoniaeth drwy'r dydd heddiw.

Jambori'r Urdd ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.
(Bydd angen pecyn cinio a gwisg ysgol at y disgyblion os gwelwch yn dda.)

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb coginio ar ôl ysgol ar gyfer plant blwyddyn 2 dosbarthiadau Miss Hughes a Miss Wena Williams.
(3:30 - 4:30)

Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.

Dydd Mercher:

** Diwrnod Type one-sie: Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu 'onesies' heddiw er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer clefyd y siwgr. (Gofynnwn yn garedig am unrhyw gyfraniad.) **

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)

** Prynhawn Lles - Gwrth-fwlio **
(Am fwy o wybodaeth am wythnos gwrth-fwlio eleni, gweler y wefan isod.)

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)

Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i weld drama 'Adenydd i Hedfan' yn Theatr y Congress bore' 'ma.

Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 6 gyda Chasnewydd.

Clwb rygbi ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.

Diolch.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr