Ffair Gyrfaoedd Blwyddyn 6:

Ffair Gyrfaoedd Blwyddyn 6:

22nd October 2018

Mae disgyblion blwyddyn 6 wedi ymweld â Ffair Gyrfaoedd y GIG heddiw.

Gwahoddwyd disgyblion blwyddyn 6 i Ffair Gyrfaoedd a oedd wedi ei threfnu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Dysgodd y disgyblion am yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael o fewn ein Gwasanaeth Iechyd a mwynhaodd y disgyblion drafod y swyddi gyda gwahanol aelodau o staff.

Fe siaradon nhw gyda nifer o siaradwyr Cymraeg a'i hatgoffodd am bwysigrwydd siarad yr iaith.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr