Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

18th October 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

** Dyma ein hwythnos olaf yn yr ysgol cyn hanner tymor. Byddwn yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Llun, Tachwedd 5ed. **

Patrwm Iaith yr Wythnos: weithiau (nid 'rhai weithiau')

Band yr Wythnos: Y Bandana.
Byddwn yn gwrando ar 'Gwyn ein byd' a 'Cân y tân'.

Does dim lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin.

Dydd Llun:

Lluniau unigol / teulu.
(Os oes aelodau o'r teulu eisiau dod i dynnu llun gyda disgybl yn yr ysgol, gofynnwn i chi ddod i'r ysgol erbyn 08:30.)

Ffair gyrfaoedd y GIG ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. (1:30 - 2:30)

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb coginio ar ôl ysgol ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes. (3:30 - 4:30)

Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.

Disgo y Gymdeithas Rieni ac Athrawon - 6 tan 7 yn neuadd yr ysgol.
(Mynediad - £1)

Dydd Mercher:

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)

** Prynhawn Lles - Cymorth Cyntaf. **

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)

Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Cystadleuaeth bel-droed yr Urdd ar gyfer merched - Stadiwm Cwmbrân.
(Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)

Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 6 gyda Chasnewydd.

Clwb rygbi ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

** Dyma'r diwrnod olaf yn yr ysgol ar gyfer y disgyblion. **

Dydd Gwener:

** Dim ysgol i'r disgyblion - Hyfforddiant Mewn Swydd ar gyfer yr athrawon. **

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr