Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

12th October 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos: y/yr .... i gyd (Nid 'gyd o'....)

Band yr Wythnos: Gwilym.
Byddwn yn gwrando ar 'Catalunya' a 'Fyny ac yn ôl' yn yr ysgol.

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw pinc.

Dydd Llun:

Diwrnod Shwmae Su'mae: Rydym yn annog pawb i ddechrau bob sgwrs yn y Gymraeg.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Clwb coginio ar ôl ysgol ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes. (3:30 - 4:30)
Mae llythyr wedi cael ei ddanfon adref am hwn yn barod.

Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.

Cyfarfod C.Rh.A am 3:30 yn neuadd yr ysgol - croeso cynnes i bawb.

Dydd Mercher:

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)

Dydd Iau:

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 6 gyda Chasnewydd.

Clwb rygbi ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:

** Gwasanaeth Diolchgarwch - bydd gwasanaeth arbennig bore 'ma. Gofynnwn yn garedig am gyfraniadau o fwydydd / tuniau ar gyfer y banc bwyd lleol. **

Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth blwyddyn 2 Miss Hughes.

Clwb HWB ar gyfer disgyblion CA2 yn ystod amser cinio. (12:30 - 1)

Diolch.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr