Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

4th October 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos: Oes .... gyda ti? Oes / Nac oes.

Band yr Wythnos: Mabli Tudur.
Byddwn yn gwrando ar 'Llangrannog' a 'Cwestiynau Anatebol'.

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw melyn.

** Bydd clybiau ar ôl ysgol yn ail ddechrau yr wythnos hon. **

Dydd Llun:

Sesiwn Sbectrwm i ddisgyblion blwyddyn 2 a blwyddyn 6 - mae llythyr wedi mynd mas am hwn yn barod.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar gyfer disgyblion blwyddyn 6.

Clwb coginio ar ôl ysgol ar gyfer plant blwyddyn 2 Miss Hughes. (3:30 - 4:30)
Mae llythyr wedi cael ei ddanfon adref am hwn yn barod.

Ymarfer côr rhwng 3:30 a 4:30.

Dydd Mercher:

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr ysgol.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion sy'n mynychu'r clwb.)

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. (3:30 - 4:30)

Clwb pêl-rwyd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. (3:30 - 4:30)

* Prynhawn Lles - Diwrnod Iechyd Meddwl. *

Dydd Iau:

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Sesiwn bêl-droed i ddisgyblion blwyddyn 6 gyda Chasnewydd.

Clwb rygbi ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. (3:30 - 4:30)

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth blwyddyn 2 Miss Hughes.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr