Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

28th September 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos: Fy hoff .... yw .....

Band yr Wythnos: I fight lions.
Byddwn yn gwrando ar 'Calon Dan Glo' a 'Y byd'.

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw gwyrdd.

** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. **

Dydd Llun:

Sesiwn Sbectrwm i ddisgyblion blwyddyn 2 a blwydydn 6 - mae llythyr wedi mynd mas am hwn yn barod.

Noson rieni - bydd Ffair Scholastic yn y neuadd a bydd aelodau o'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon yn darparu te a choffi ar y noson.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Sesiwn Sbectrwm i ddisgyblion blwyddyn 2 a blwydydn 6 - mae llythyr wedi mynd mas am hwn yn barod.

Noson rieni - bydd Ffair Scholastic yn y neuadd a bydd aelodau o'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon yn darparu te a choffi ar y noson.

Dydd Mercher:

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr wythnos.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Bydd Miss James o Ysgol Gwynllyw yn dod i siarad gyda disgyblion blwyddyn 6 heddiw.

Dydd Iau:

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Sesiwn bel-droed i ddisgyblion blwyddyn 6 gyda Chasnewydd.

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth blwyddyn 2 Miss Hughes.

Bydd 83 disgybl o flynyddoedd 5 a 6 yn mynd i Langrannog heddiw. Byddwn yn gadael am 10:30 y bore.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr