Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

27th September 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos: Fy hoff .... yw .....

Band yr Wythnos: I fight lions.
Byddwn yn gwrando ar 'Calon Dan Glo' a 'Diwedd y Byd'.

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw gwyrdd.

** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. **

Dydd Llun:

Sesiwn Sbectrwm ar gyfer disgyblion blynyddoedd 2 a 6. (Mae llythyr wedi mynd adre' am y sesiynau hyn.)

Noson rieni - bydd Ffair Lyfrau Scholastic yn y neuadd yn ystod y ddwy noson a bydd aelodau o'r G.Rh.A yn darparu te a choffi.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Sesiwn Sbectrwm ar gyfer disgyblion blynyddoedd 2 a 6. (Mae llythyr wedi mynd adre' am y sesiynau hyn.)

Noson rieni - bydd Ffair Lyfrau Scholastic yn y neuadd yn ystod y ddwy noson a bydd aelodau o'r G.Rh.A yn darparu te a choffi.

Dydd Mercher:

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr wythnos.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Dydd Iau:

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Sesiwn bel-droed i ddosbarthiadau Miss Passmore a Mr Bridson.

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth blwyddyn 2 Miss Hughes.

Bydd 83 o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn mynd i Langrannog am y pentwythnos heddiw.
Bydd y disgyblion yn gadael tua 10:30.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr