Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

20th September 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos: Wyt ti'n hoffi .....? Ydw / Nac ydw.

Band yr Wythnos: Candelas. Byddwn yn gwrando ar 'Ddoe, heddiw a fory' a 'Ma' hi yn fwy roc a rol na chi i gyd'.

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw oren.

** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. **

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Dydd Mercher:

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent ymlaen heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr wythnos.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Sesiwn ioga ar gyfer disgyblion dosbarthiadau Mr Price, Mr Bridson a Miss Passmore.

** Prynhawn lles - Thema'r prynhawn lles yw pobl allwn droi atynt os oes angen e.e. Meic, Childline ac NSPCC. **
Bydd y Samariaid yn cynnal gweithdy gyda disgyblion blwyddyn 4 am eu gwaith yn y gymuned.
Bydd PC Thomas yn cynnal gweithdy gyda disgyblion blwyddyn 2 am waith yr heddlu yn y gymuned.
Dydd Iau:

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Cystadleuaeth bêl-droed yn Stadiwm Cwmbrân.
(Mae'r rheiny sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)

Dydd Gwener:

Bore Coffi MacMillan - gweler y llythyr yn rhan 'Llythyron Adref' ar y wefan er mwyn gweld yr amseroedd.

Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth blwyddyn 2 Miss Hughes.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr