Diwrnod Owain Glyndŵr:

Diwrnod Owain Glyndŵr:

17th September 2018

Rydym wedi mwynhau dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr yn yr ysgol heddiw.

Daeth y disgyblion i'r ysgol wedi gwisgo fel nifer o arwyr Cymreig heddiw ac roedd hi'n hyfryd eu gweld yn cerdded trwy ddrysau'r ysgol bore 'ma.

Gwelon ni Betsi Cadwaladr, Aneirin Bevan, Barti Ddu, Owain Glyndŵr, Gwenllïan a llawer, llawer mwy.

Yn y dosbarthiadau, aeth y disgyblion ati i wneud nifer o weithgareddau yn ymwneud gyda'n Tywysog.

Diolch i bawb am ymdrechu mor galed heddiw.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr