Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

13th September 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos: Roeddwn i'n .....
Band yr Wythnos: Yr Ods - 'Gadael dy hun i lawr' a 'Fel hyn am byth.'

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw glas.

** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. **

Dydd Llun:

Diwrnod Owain Glyndwr: Gall y disgyblion ddod i'r ysgol wedi gwisgo fel arwr o Gymru.
(Gweler y llythyr yn y rhan 'Llythyron Adref'.)

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Cyfarfod Pwyllgor Rieni ac Athrawon - 3:30 yn neuadd yr ysgol.
Croeso cynnes i bawb.

Dydd Mercher:

Mae gwersi Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gwent yn dechrau heddiw - 09:15 tan 11:15 yn llyfrgell yr wythnos.

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Sesiwn ioga ar gyfer plant dosbarthiadau Miss W Williams, Miss Hughes a Miss Westphal.

Dydd Iau:

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Hyfforddiant 'Arwyr Digidol' ar gyfer ein Harweinwyr Digidol. (1-3)

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth blwyddyn 2 Miss Hughes.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr