Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

7th September 2018

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos: Rydw i'n ....

** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. **

Dydd Llun:

Diwrnod cywaith Cyfnod Allweddol 2: Bydd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ymweld â saith dosbarth heddiw er mwyn dysgu am gynefinoedd gwahanol wrth iddynt ddechrau ar eu prosiect chwe wythnos yn seiliedig ar y thema 'Rhannu'r blaned'.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth disgybl yr wythnos - 09:10 yn neuadd yr ysgol.

Dydd Mercher:

Ymgyrch beicio / sgwtera i'r ysgol. (#WheelieWednesday) Rydyn ni'n annog y disgyblion i ddod i'r ysgol ar gefn beic neu sgwter heddiw.

Sesiwn ioga ar gyfer plant y feithrin, y derbyn a blwyddyn 1.

Dydd Iau:

Gwers nofio i ddisgyblion blwyddyn 4 Mrs Lewis.

Dydd Gwener:

Gwers ffidil ar gyfer plant dosbarth blwyddyn 2 Miss Hughes.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr