Gwersi Cymraeg i'r teulu:

Gwersi Cymraeg i'r teulu:

5th September 2018

Mae Dysgu Cymraeg Gwent yn cynnig cwrs 30 wythnos o wersi Cymraeg am £70.

Cwrs Mynediad:Cymraeg i’r Teulu Rhan 1

Dyma gwrs ar gyfer rhieni, mam-guod, tad-cuod a gofalwyr sy eisiau siarad Cymraeg gyda phlant ifanc. Teilwra’r Cwrs Cymraeg i’r Teulu i sicrhau bod modd i rieni, aelodau’r teulu ac eraill sy’n gweithio gyda phlant siarad Cymraeg â phlant oedran Cyfnod Sylfaen (hyd at 7 oed). Mae’n addas ar gyfer dechreuwyr pur, a’r rhai sydd gyda rhywfaint o Gymraeg yn barod.  

Bydd y cwrs yn ffocysu ar y canlynol:

• cyfarchion

• gofyn cwestiynau

• rhoi gorchmynion syml

• darllen

• canu

• chwarae gemau

 Yn wahanol i bob cwrs arall, teilwra’r patrymau iaith, caneuon, a gweithgareddau i’ch helpu cyfathrebu â phlant drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly os dych chi eisiau siarad Cymraeg â’ch plentyn, darllen stori neu helpu gyda gwaith cartref, dyma gyfle i chi ddysgu Cymraeg mewn dosbarth sy’n llawn hwyl.

Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan isod.

Diolch.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr