Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

13th July 2017

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahan i Glwb Plant y Tri Arth.**

Patrwm Iaith yr Wythnos:

Dweud 'wrth' rywun, yn hytrach na dweud 'i' .....

Band yr Wythnos:

Band yr Wythnos yw Sibrydion.
Byddwn yn gwrando ar 'Chwarae' a 'Disgyn amdanat ti'.

Dydd Llun:

Cyfarfod blynyddol y PTA. 9 o'r gloch yn llyfrgell yr ysgol.
(Croeso cynnes i bawb.)

Bydd disgyblion blwyddyn 2 yn ffilmio ar gyfer rhaglen 'Tipi Ni' ar S4C heddiw.
Gall y disgyblion wisgo dillad eu hunain. Bydd angen pecyn cinio ar bob un os gwelwch yn dda.

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Wynllyw ar gyfer mabolgampau heddiw. Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad chwaraeon.
(Bydd angen pecyn cinio, eli haul a digon o ddwr ar y disgyblion.)

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth gadael blwyddyn 6. 09:30 yn neuadd yr ysgol.

Taith blwyddyn 4 i Wlypdiroedd Casnewydd.
Bydd angen pecyn cinio a gwisg ysgol ar y diwrnod os gwelwch yn dda.

Dydd Mercher:

Sesiwn Hyfforddi Pêl-droed blwyddyn 6 gyda Chlwb Pêl-droed Casnewydd.

Cwrs Diogelwch Beicio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 - prynhawn.

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i fowlio fel gwobr diwedd blwyddyn.
(4:30 - 6 yn Bowlplex, Cwmbrân.)
Gall y disgyblion wisgo dillad eu hunain.

Dydd Iau:

Dim gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.

Cwrs Diogelwch Beicio a'r prawf ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 - prynhawn.

Dydd Gwener:

Diwrnod ola'r flwyddyn. Bydd yr ysgol yn gorffen am 1:30 heddiw.
(Dim Clwb Plant y Tri Arth)

Diolch yn fawr iawn am eich holl gefnogaeth eleni. Mwynhewch y gwyliau ac edrychwn ymlaen at weld pawb ar ddydd Mawrth, Medi'r 5ed.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr