Trefniadau'r Wythnos:
6th July 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahan i Glwb Plant y Tri Arth.**
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Gwrando 'ar' gerddoriaeth, yn hytrach na gwrando 'i' gerddoriaeth.
Edrych ymlaen 'at' rywbeth, yn hytrach na edrych ymlaen 'i' rywbth.
Band yr Wythnos:
Band yr Wythnos yw Meic Stevens. Byddwn yn gwrando ar 'Y brawd Houdin' a 'Disgwyl rhywbeth gwell i ddod'.
Dydd Llun:
Bydd rhai o ddisgyblion blwyddyn 3 yn ffilmio ar gyfer rhaglen 'Ahoi' ar S4C heddiw.
(Mae'r rhai sy'n gwneud y ffilmio wedi derbyn llythyr.)
Dydd Mawrth:
Bydd rhai disgyblion blwyddyn 6 yn gwneud Prosiect John Muir heddiw.
Bydd angen pecyn cinio ar bob un a gallant ddod i'r ysgol yn eu dillad eu hunain.
(Mae'r rhai sy'n cymryd rhan wedi derbyn llythyr.)
Dydd Mercher:
Gwasanaeth Blwyddyn 5: 09:30 yn neuadd yr ysgol.
Bydd plant y feithrin yn mynd i 'Cheeky Monkeys' heddiw.
Bydd y staff yn cwrdd â'r plant yno. (£5, yn cynnwys bwyd)
Meithrin y bore: 09:30 - 11:30
Meithrin y prynhawn: 1:30 - 3:30.
Sesiwn Hyfforddi Pêl-droed blwyddyn 6 gyda Chlwb Pêl-droed Casnewydd.
Cwrs Diogelwch Beicio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 - prynhawn.
Dydd Iau:
Taith y dosbarth derbyn i Fferm Cefn Mably.
Bydd angen i'r disgyblion wisgo gwisg ysgol a bydd angen pecyn cinio ar bob un os gwelwch yn dda.
(Bydd angen digon o ddwr, eli haul a het haul hefyd os gwelwch yn dda.)
Bydd disgyblion blwyddyn 2 yn mynd i Jambori'r Urdd heddiw.
(Bydd angen pecyn cinio ar bob un os gwelwch yn dda. Gwisg ysgol.)
Bydd angen eli haul, het haul a chot law ar bob un hefyd os gwelwch yn dda.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths - dyma fydd yr un olaf.
Cwrs Diogelwch Beicio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 - prynhawn.
Dydd Gwener:
Llangrannog: Os ydy eich plentyn eisiau mynd i Langrannog, gofynnwn yn garedig am y blaendal o £30 erbyn heddiw os gwelwch yn dda. (Blynyddoedd 4 a 5)
Cyngerdd ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish.
09:30 yn neuadd yr ysgol - croeso i rieni / warchodwyr ymuno.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Gig Daniel Lloyd a Mr Pinc i ddisgyblion CA2.
(Bydd angen i'r disgyblion wisgo gwisg ysgol a byddan nhw'n bwyta yn yr ysgol fel arfer.)
Diolch yn fawr.