Dyddiadau Blwyddyn 6:
5th July 2017
Mae'r disgyblion wedi derbyn llythyr yn cynnwys rhestr o'r dyddiadau sydd angen eu nodi ar gyfer diwedd y flwyddyn.
Mae diwedd y flwyddyn yn amser prysur iawn i ddisgyblion blwyddyn 6 felly isod, ceir rhestr o’r dyddiadau pwysig sydd angen eu nodi:
17.7.2017: Mabolgampau Gwynllyw:
Bydd y disgyblion yn cymryd rhan ym mabolgampau Gwynllyw ar y 17eg o Orffennaf yn Ysgol Gyfun Gwynllyw. Gall y disgyblion ddod i’r ysgol yn eu dillad ymarfer corff. Bydd angen pecyn cinio arnynt, digon o ddŵr ac eli haul.
18.7.2017: Gwasanaeth Gadael:
Bydd y disgyblion yn perfformio eu gwasanaeth olaf ar fore dydd Mawrth, Gorffennaf 18fed am 9:30. Croeso i bawb ymuno.
19.7.2017: Bowlio:
Bob blwyddyn, mae’r C.Rh.A yn talu i ddisgyblion blwyddyn 6 i fynd i fowlio. Byddwn yn cwrdd â’r disgyblion yn Bowlplex, Cwmbrân am 4:30 ar ddydd Mercher, Gorffennaf 19eg. Bydd y disgyblion yn cael un gem o fowlio a bwyd. Byddwn wedi gorffen erbyn 6 o’r gloch.
Diolch yn fawr.