Trefniadau'r Wythnos:
29th June 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Mae'n 'gwneud i fi' yn hytrach na 'mae'n creu fi ....'
Band yr Wythnos:
Band yr Wythnos yw Frisbee. Byddwn yn gwrando ar 'Ti - Si Hei Lwli' a 'Heyla' yn y dosbarthiadau.
Dydd Llun:
Bydd dosbarth Miss Broad yn mynd i'r sinema heddiw (Vue Cwmbrân) gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer Mehefin.
Taith Blynyddoedd 5 a 6:
Bydd angen i'r disgyblion wisgo gwisg ysgol os gwelwch yn dda. Gall y disgyblion wisgo / ddod â throwsus chwaraeon ac esgidiau ymarfer corff. Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod gan bob un pecyn cinio. (Os ydynt yn ddioddef o asthma, rhaid iddynt ddod â phwmp gyda nhw.)
Dydd Mawrth:
Trip blynyddoedd 1 a 2:
Bydd angen i'r disgyblion wisgo gwisg ysgol. Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod gan bob un pecyn cinio, digon o ddŵr ac eli haul / cot law. (Os ydynt yn ddioddef o asthma, rhaid iddynt ddod â phwmp gyda nhw.)
Bydd rhai disgyblion blwyddyn 6 yn gwneud Prosiect John Muir heddiw.
Bydd angen pecyn cinio ar bob un a gallant ddod i'r ysgol yn eu dillad eu hunain.
(Mae'r rhai sy'n cymryd rhan wedi derbyn llythyr.)
Hawl i Holi:
Bydd rhai o'n cyn ddisgyblion yn dod i siarad gyda disgyblion blwyddyn 6 er mwyn ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am flwyddyn nesaf.
Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 o 3:30 - 4:30.
Ymarfer Shakespeare o 3:30 - 4:30.
Dydd Mercher:
Gwasanaeth Blwyddyn 4:
09:30 yn neuadd yr ysgol.
Sesiwn 2: Bydd y disgyblion yn treulio amser yn eu dosbarthiadau newydd.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30. (£1)
Sesiwn Hyfforddi Pêl-droed blwyddyn 6 gyda Chlwb Pêl-droed Casnewydd.
Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.
Clwb Ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb Pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Gwener:
Diwrnod Agored:
Bydd cyfle i chi ddod i ymweld yn ystod y sesiynau canlynol:
9.20am - 10.20am
10.50am - 11.30am
1.30pm - 2.10pm
Bydd Ffair Lyfrau yn neuadd yr ysgol hefyd.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)
Gwers hoci blwyddyn 6.
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
** FFAIR HAF **
3:30. Dewch i gefnogi!
Diolch yn fawr.