Trefniadau'r Wythnos:
22nd June 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Y gwahaniaeth rhwng 'pan' a 'pryd' e.e.
Pan oeddwn i'n fach .... / Pryd mae'r wers?
Band yr Wythnos:
Band yr Wythnos yw 'Yr Eira'. Byddwn yn gwrando ar 'Yr Euog' a 'Suddo' yn yr ysgol.
Dydd Llun:
Sesiynau 'Superstars' Blynyddoedd 5 a 6.
Prawf clyw ar gyfer plant y derbyn.
Dydd Mawrth:
Trip blwyddyn 4:
Bydd angen i'r disgyblion wisgo gwisg ysgol. Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod gan bob un pecyn cinio, digon o ddwr ac eli haul. (Os ydynt yn ddioddef o asthma, rhaid iddynt ddod â phwmp gyda nhw.)
Bydd rhai disgyblion blwyddyn 6 yn dechrau Prosiect John Muir heddiw.
Bydd angen pecyn cinio ar bob un a gallant ddod i'r ysgol yn eu dillad eu hunain.
(Mae'r rhai sy'n cymryd rhan wedi derbyn llythyr.)
Prynhawn agored yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ar gyfer rhieni / gwarchodwyr blwyddyn 5:
Sesiwn 1: 2 - 3:30
Sesiwn 2: 4 - 6
Noson Agored yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ar gyfer rhieni / gwarchodwyr Blwyddyn 6:
6 - 7:30.
Bydd cyfle i dalu am Lan-llyn (£195)
Prynu tei a bathodyn yr ysgol (£10)
Edrych o gwmpas yr ysgol.
Cwrdd ag athrawon a chael paned.
Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 o 3:30 - 4:30.
Ymarfer Shakespeare o 3:30 - 4:30.
Dydd Mercher:
Gwasanaeth Blynyddoedd 1 a 2:
09:30 - Rhieni / Gwarchodwyr Blwyddyn 1
2:00 - Rhieni / Gwarchodwyr Blwyddyn 2
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30. (£1)
Sesiwn Hyfforddi Pêl-droed bwyddyn 6 gyda Chlwb Pêl-droed Casnewydd.
Cystadleuaeth Hoci Blynyddoedd 4, 5 a 6 yn Stadiwm Cwmbrân rhwng 3 a 4:45.
Stadiwm Cwmbrân.
(Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)
Dydd Iau:
Sesiwn 'Mindfulness' ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 5 a 6 heddiw.
Mabolgampau'r Urdd yn Stadiwm Cwmbrân rhwng 4 a 6.
(Bydd llythyr yn cael ei ddanfon adref ddydd Llun.)
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.
Bydd PC Thomas yn cynnal gweithdai gyda disgyblion blynyddoedd 3, 4 a 5 heddiw.
** DIM CLWB FFITRWYDD / PEL-RWYD AR OL YSGOL. **
Dydd Gwener:
Gweithdai diogelwch dŵr ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)
Gwers hoci blwyddyn 6.
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Bydd hufen iâ yn cael ei werthu ar iard CA2 ar ddiwedd y dydd.
(50c)
Diolch yn fawr.