Trefniadau'r Mabolgampau:
20th June 2017
Rydym wedi penderfynu gohirio Mabolgampau CA2 yfory felly bydd y ddau Mabolgampau yn digwydd ddydd Gwener.
** PWYSIG – Newid i drefniadau’r Mabolgampau yn sgil y tywydd poeth **
Ymddiheurwn ein bod wedi gorfod gohirio y Mabolgampau a sylweddolwn y gallai hyn fod wedi achosi anhwylustod i rai rhieni. Rydym bellach wedi aildrefnu a dyma’r trefniadau:
BORE DYDD GWENER 23ain o FEHEFIN
9:45 – 11:45 - Mabolgampau’r Cyfnod Sylfaen gan gynnwys Meithrin y bore
PRYNHAWN DYDD GWENER 23ain O FEHEFIN
1:15 – 3:15 - Mabolgampau Cyfnod Allweddol 2 a Meithrin y prynhawn
Yn anffodus ni allwn reoli’r tywydd a byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y Mabolgampau yn mynd yn ei flaen ar ddydd Gwener ond gyda rhaglen llai na’r arferol.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.