Taith Blynyddoedd 5 a 6 i Langrannog:

Taith Blynyddoedd 5 a 6 i Langrannog:

20th June 2017

Heno, bydd disgyblion blynyddoedd 4 a 5 yn derbyn llythyr am daith Llangrannog sy'n digwydd ym mis Hydref.

Bob blwyddyn, mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn cael cyfle i fynd ar daith i Langrannog sef gwersyll yr Urdd yng Ngorllewin Cymru. Mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 a’r holl ysgolion Cymraeg sy’n bwydo Gwynllyw yn mynd ar y daith. Eleni, mae’r daith penwythnos i Langrannog rhwng y 6ed a’r 8fed o Hydref. Cost y daith fydd £147 a bydd hwn hefyd yn cynnwys cost aelodaeth yr Urdd, sef £7, am y flwyddyn. Yn gynwysedig yn y pris hwn bydd holl fwyd y penwythnos, yswiriant, costau teithio, dros ddeg o weithgareddau a dwy noson yn y gwersyll.

Bydd y disgyblion yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau dros y penwythnos megis sgïo, gwibgartio, nofio, merlota, saethyddiaeth ayyb. Gofynnwn yn garedig i chi ddychwelyd y rhwyglen isod a blaendal o £30 cyn dydd Gwener, y 14eg o Orffennaf. Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu ad-dalu’r blaendal o £30 os nad yw eich plentyn yn dod.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Miss Passmore neu er mwyn gweld mwy am Langrannog, ewch i wefan Llangrannog, isod.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr