Cwrs Hyfforddiant Beicio 2017:

Cwrs Hyfforddiant Beicio 2017:

19th June 2017

Mae disgyblion blwyddyn 6 wedi derbyn llythyr am y cwrs beicio:

Rydym wedi penderfynu cynnig cwrs beicio’n ddiogel i ddisgyblion blwyddyn 6 sydd â diddordeb mewn cymryd rhan. Bydd y gwersi beicio yn digwydd yn ystod tri phrynhawn yn amser ysgol. Ar ddiwedd y cwrs, bydd aelod o CAPITA SYMONDS yn dod i’r ysgol i brofi’r plant er mwyn iddynt gael pasio’r cwrs.

Ar y diwrnodau y rhestrir isod, gofynnwn yn garedig i chi ddod â’r beiciau i’r ysgol yn y bore a’u clymu yn y man beicio. Yn anffodus, ni allwn gymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod sy’n digwydd i’r beiciau ar dir yr ysgol. Rhaid i bob beic gael brêc sy’n gweithio.

Rhaid i’r disgyblion ddod ag helmed addas ar gyfer gwneud y cwrs. Os hoffech i’ch plentyn gymryd rhan yn yr hyfforddiant, gofynnwn yn garedig i chi ddarllen y rheolau ac arwyddo ar y gwaelod. Bydd rhaid i ni dderbyn rhain yn ôl erbyn dydd Gwener, os gwelwch yn dda.

Y sesiynau beicio:

Prynhawn dydd Mercher, Gorffennaf 12fed
Prynhawn dydd Iau, Gorffennaf 13eg
Prynhawn dydd Mercher, Gorffennaf 19eg
Prynhawn dydd Iau, Gorffennaf 20fed (Y prawf)

Er mwyn gweld copi o'r llythyr, ewch i'r rhan 'Llythyron Adref'.

Am fwy o wybodaeth am y cwrs, cysylltwch gyda Miss Passmore.


^yn ôl i'r brif restr