Trefniadau'r Wythnos:
16th June 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Y treiglad meddal ar ôl ‘dyma’ e.e. dyma ferch / dyma fachgen.
Band yr Wythnos:
Band yr Wythnos yw 'Y Cyrff'. Byddwn yn gwrando ar 'Cymru, Lloegr a Llanrwst' a 'Llawenydd heb ddiwedd'.
Dydd Llun:
Sesiynau 'Superstars' Blynyddoedd 5 a 6 a’r feithrin.
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Wynllyw am y diwrnod. (Pecyn cinio a gwisg ysgol)
Dydd Mawrth:
** Mabolgampau'r Cyfnod Sylfaen. **
(Mae hwn wedi gohirio - gobeithiwn gynnal y Mabolgampau ddydd Gwener.)
Bore – 09:30
Prynhawn – 1:30
Gall y disgyblion ddod i’r ysgol yn eu dillad chwaraeon / lliw eu llys.
Bydd angen eli haul, digon o ddŵr a het haul ar y disgyblion.
Bydd lluniaeth ar gael yn ystod y diwrnod.
Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 o 3:30 - 4:30.
Ymarfer Shakespeare o 3:30 - 4:30.
Ymarfer Cwis Lyfrau o 3:30 – 4:30.
Dydd Mercher:
** Mabolgampau Cyfnod Allweddol 2 **
Wedi ei ohirio tan ddydd Gwener.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30. (£1)
Dim ymarfer i'r disgyblion sy'n gwneud y Cwis Lyfrau.
Cyfarfod i rieni newydd y feithrin. 6 o’r gloch yn neuadd yr ysgol.
Dydd Iau:
** Diwrnod Cenedlaethol Ysgrifennu **
Byddwn yn gwneud gweithgareddau ar gyfer hybu ysgrifennu heddiw. Am fwy o wybodaeth ar sut i ysbrydoli'ch plentyn i ysgrifennu, ewch i'r wefan isod.
Sesiwn 'Mindfulness' ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 5 a 6 heddiw.
Cystadleuaeth Criced yr Urdd ar gyfer disgyblion blwyddyn 4.
(Pecyn cinio / eli haul / dillad chwaraeon)
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.
Cwis Lyfrau yn Aberystwyth.
Bydd y disgyblion yn gadael yr ysgol am 7yb ac yn cyrraedd yn ol am 6yh.)
Clwb ffitrwydd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
** Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda'r system di-dâl newydd, bydd cynrychiolydd o'r cwmni ar gael yn nosbarth Miss Passmore o 3:30 ymlaen. Galwch mewn gyda unrhyw gwestiynau sydd gyda chi. **
Dydd Gwener:
** Mabolgampau **
9:45 – 11:45 - Mabolgampau’r Cyfnod Sylfaen gan gynnwys Meithrin y bore
PRYNHAWN DYDD GWENER 23ain O FEHEFIN
1:15 – 3:15 - Mabolgampau Cyfnod Allweddol 2 a Meithrin y prynhawn
Yn anffodus ni allwn reoli’r tywydd a byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y Mabolgampau yn mynd yn ei flaen ar ddydd Gwener ond gyda rhaglen llai na’r arferol.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)
Gwers hoci blwyddyn 6.
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Diolch yn fawr.