Mabolgampau:

Mabolgampau:

14th June 2017

Bydd y Mabolgampau'n digwydd wythnos nesaf:

Cynhelir Mabolgampau Cyfnod Sylfaen Ysgol Gymraeg Cwmbrân ar ddydd Mawrth y 20fed o Fehefin am 9.30yb a chynhelir Mabolgampau yr Adran Iau ar ddydd Mercher yr 21ain o Fehefin am 9.30yb. Cynhelir y Mabolgampau ar y gwair o flaen yr ysgol os yw’r tywydd yn ffafriol. Bydd plant meithrin y bore yn cymryd rhan yn y Mabolgampau yn y bore a phlant y prynhawn yn cymryd rhan yn y prynhawn.

Cofiwch:

• Rhoi eli haul ar eich plentyn cyn dod i’r ysgol a sicrhau fod ganddynt botel o eli haul yn ei bag i roi rhagor ymlaen amser cinio.
• Rhoi het i’ch plentyn.
• Rhoi potel o ddiod (wedi labelu) i’ch plentyn cyn dod i’r ysgol.

Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau fod gan eich plentyn yr uchod cyn dod i’r ysgol ac i chi beidio croesi’r trac o ochr y gwylwyr i weld eich plentyn.

Bydd angen i’ch plentyn wisgo dillad addas (siorts, crys-t ac esgidiau ymarfer corff) yn lliw y llys ar ddiwrnod y mabolgampau. Mae rhagolygon y tywydd yn dangos cyfnodau heulog ar hyn o bryd. Byddwn yn eich hysbysu am unrhyw newid i’r trefniadau ar Schoop (10319), Twitter (@ygcwmbran) ac ar wefan yr ysgol - www.ysgolgymraegcwmbran.co.uk

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr