TAFWYL:
11th June 2017
Mewn tair wythnos, (Gorffennaf 1af / 2il) cynhelir Gŵyl Gerddoriaeth a Chefyddydau yn rhad ac am ddim yng Nghaerdydd.
Yn yr ŵyl, sy'n digwydd yng Nghaeau Llandaf, bydd nifer fawr o stondinau gwahanol yn gwerthu bwyd, diod a nwyddau. Bydd nifer fawr o fandiau Cymraeg yn chwarae drwy'r penwythnos; rhai bandiau sydd wedi eu cynnwys fel ein 'Band yr Wythnos' dros y misoedd diwethaf. Mae'r bandiau hyn yn cynnwys Yws Gwynedd, Candelas, Bryn Fôn a Brigyn. Mae'r ŵyl yn addas ar gyfer y teulu cyfan.
Am fwy o wybodaeth am #Tafwyl, ewch i'r wefan isod.
Diolch.