Trefniadau'r Wythnos:
8th June 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Wythnos Rhifedd ar draws y Cwricwlwm. **
(Bydd y disgyblion yn gwneud nifer o weithgareddau'n ymwneud â thaith y Llewod i Seland Newydd.)
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Berfau cryno a’u defnydd mewn brawddegau e.e. ‘Cerddais i…. ‘, ‘Gwelodd hi….’ a ‘Teithion ni ….’ ayyb.
(Byddwn yn edrych ar ferfau cryno yn y trydydd person hefyd e.e. cerddodd e/hi.)
Band yr Wythnos:
Band yr Wythnos yw Mr Phormula.' Byddwn yn gwrando ar ‘Un i’r gorffennol’ a ‘Croeso’.
Dydd Llun:
Sesiynau 'Superstars' Blynyddoedd 5 a 6.
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos. 09:10 yn neuadd yr ysgol.
Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 o 3:30 - 4:30.
Ymarfer Shakespeare o 3:30 - 4:30.
Dydd Mercher:
Gwasanaeth y Feithrin a'r Derbyn.
Gwasanaeth y bore: 10 o'r gloch yn neuadd yr ysgol. (Meithrin bore a dosbarth Miss Thomas)
/ Gwasanaeth y prynhawn: 2 o'r gloch yn neuadd yr ysgol. (Meithrin prynhawn a dosbarth Miss Emery)
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30. (£1)
Ymarfer i'r disgyblion sy'n gwneud y Cwis Lyfrau. (3:30 - 4:30)
Sesiwn 'Mindfulness' ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 5 a 6 heddiw.
Sesiwn Hyfforddi Pêl-droed gyda Chlwb Pêl-droed Casnewydd ar gyfer dosbarth Miss Passmore. (1pm)
Cyfarfod i rieni newydd y derbyn. 6 o’r gloch yn neuadd yr ysgol.
Dydd Iau:
Sgrinio golwg ar gyfer plant y derbyn.
Cystadleuaeth Criced yr Urdd ar gyfer disgyblion blwyddyn 4. (Pecyn cinio / eli haul / dillad chwaraeon)
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.
Clwb ffitrwydd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Dydd Gwener:
Gall ddisgyblion dosbarth Miss Faulknall wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Mai.
Bydd rhywun yn dod i drafod gwersi nofio blwyddyn nesaf gyda disgyblion blwyddyn 3 heddiw. (11 o'r gloch.)
Gwasanaeth Dosbarth Blwyddyn 3. 09:10 yn neuadd yr ysgol.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6.
Diolch yn fawr.