Yr Etholiad Cyffredinol, 2017:
8th June 2017
Mae'r disgyblion wedi bod yn dysgu am yr Etholiad Cyffredinol heddiw.
Bore 'ma, aeth disgyblion blwyddyn 6 i bob dosbarth o flwyddyn 1 lan at flwyddyn 6 er mwyn addysgu'r disgyblion am yr hyn sy'n digwydd heddiw. Trwy gyflwyniad Pŵer bwynt, dysgodd y disgyblion am bwysigrwydd yr etholiad i Gymru; am y partïon gwahanol a'u harweinwyr ac am faniffesto a pholisïau’r gwahanol bleidiau.
Cafodd bob disgybl y dasg o feddwl am bolisïau a syniadau y bydden nhw yn eu cyflwyno pe baen nhw'n cael eu hethol fel prif weinidog.
Da iawn i bawb am weithio mor galed.