Cyfarfodydd yng Ngwynllyw ar gyfer rhieni / gwarchodwyr blynyddoedd 5 a 6:
7th June 2017
Mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 wedi derbyn llythyr gan Wynllyw heddiw.
Ar ddydd Mawrth, Mehefin 27ain, cynhelir diwrnod agored i rieni / gwarchodwyr disgyblion blwyddyn 5 a chynhelir noson agored ar gyfer rhieni / gwarchodwyr disgyblion blwyddyn 6.
Prynhawn Agored (Rhieni / Gwarchodwyr Blwyddyn 5)
Sesiwn 1:
2 - 3:30.
Sesiwn 2:
4 - 6.
Bydd cyfle i chi edrych o gwmpas yr ysgol a chwrdd â'r athrawon.
Noson Agored (Rhieni / Gwarchodwyr Blwyddyn 6)
6 - 7:30.
Bydd cyfle i dalu am Lan-llyn (£195)
Prynu tei a bathodyn yr ysgol (£10)
Edrych o gwmpas yr ysgol.
Cwrdd ag athrawon a chael paned.
Os oes cwestiwn gyda chi, cysylltwch gyda Miss Rhian James neu Miss Helen Rogers yng Ngwynllyw neu gysylltwch gyda Miss Passmore yn yr ysgol.
Am fwy o wybodaeth am Ysgol Gyfun Gwynllyw, ewch i'w gwefan isod.
Diolch yn fawr.