Ymweliad Barti Ddu:
7th June 2017
Daeth Barti Ddu i ymweld â phlant blynyddoedd 1 a 2 ddoe.
Gan fod blynyddoedd 1 a 2 yn gwneud 'Cymeriadau Cyffrous' fel thema ar hyn o bryd, gwahoddwyd Barti Ddu mewn i'r ysgol ddoe er mwyn cwrdd â nhw. Mwynhaodd y plant ddysgu am hanes ac anturiaethau Barti Ddu trwy sioe llawn hwyl a chwerthin 'Mewn Cymeriad'.
Diolch i Miss Hughes am drefnu.