Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

26th May 2017

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos ar ôl hanner tymor yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos:

Berfau cryno a’u defnydd mewn brawddegau e.e. ‘Cerddais i…. ‘, ‘Gwelodd hi….’ a ‘Teithion ni ….’ ayyb.

Band yr Wythnos:

Band yr Wythnos yw ‘Eden.' Byddwn yn gwrando ar ‘Paid a bod ofn’ a ‘Rho i mi wen’.

* Bydd disgyblion o flynyddoedd 3 i 6 yn rhedeg milltir ddyddiol o ddydd Mawrth ymlaen. Gofynnwn iddynt ddod ag esgidiau ymarfer corff i'r ysgol bob dydd os gwelwch yn dda. *

Dydd Llun:

Hyfforddiant Mewn Swydd - dim ysgol i'r disgyblion heddiw.

Dydd Mawrth:

Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol heddiw.

Mae arian ffrwyth ar gyfer gweddill y flwyddyn yn ddyledus heddiw. (£6.80)

Sioe Barti Ddu i ddisgyblion blynyddoedd 1 a 2.

Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 o 3:30 - 4:30.

Yn lle ymarfer côr yr hanner tymor hwn, bydd ymarfer ar gyfer cynhyrchiad Shakespeare o 3:30 - 4:30.
(Mae'r disgyblion sy'n cymryd rhan wedi derbyn llythyr.)

Dydd Mercher:

Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30. (£1)

Ymarfer i'r disgyblion sy'n gwneud y Cwis Lyfrau. (3:30 - 4:30)
Mae'r disgyblion sy'n aros wedi derbyn llythyr.

Sesiwn 'Mindfulness' ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 5 a 6 heddiw.

Dydd Iau:

Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.

Clwb pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.

Clwb pêl-rwyd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.

Dydd Gwener:

** Diwrnod Gwisg Anffurfiol **

Yn hytrach na gofyn am gyfraniad ariannol, gofynnwn yn garedig eich bod yn cefnogi'r ysgol wrth i ni baratoi ar gyfer y Ffair Haf. Rhestrir isod yr eitemau yr hoffent i bob blwyddyn i gyfrannu. Ni ddisgwylir i chi wario llawer ar yr eitemau yma.

Meithrin a Derbyn – Llyfrau a phensiliau lliwio
Blwyddyn 1 a 2 - Losin/siocled
Blwyddyn 3 a 4 – Tiniau/Bwydydd Sych/Bisgedi (melys a sawrus)/Diodydd
Blwyddyn 5 a 6 – Llyfrau darllen


* Os oes gennych ddarnau 20c neu diwb adref, gofynnwn yn garedig i chi ddod â nhw i'r ysgol erbyn heddiw. *

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)

Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr