Cyfarfod gyda Swyddog Ysgolion Iachus Torfaen:
25th May 2017
Daeth Alison Dally, Swyddog Ysgolion Iachus Torfaen, i'r ysgol heddiw.
Siaradodd y disgyblion gyda hi am fwyta'n iachus, cadw'n heini a'r pethau sy'n cael eu gwneud yn yr ysgol er mwyn gwella'r pethau hyn. Siaradodd y disgyblion yn wych.
Diolch yn fawr i Miss Broad a Mrs Dalgleish am eu holl waith gyda'r Cyngor Ysgol.