Croesawu ymwelwyr arbennig i Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Croesawu ymwelwyr arbennig i Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

19th May 2017

Ddoe, daeth nifer o ymwelwyr arbennig i weld y Siarter Iaith ar waith yn ein hysgol.

Daeth cynrychiolwyr o Lywodraeth yr Alban, Cernyw, Iwerddon, Ynys Jersey ac Ynys Manw i'n gweld ni.

Aeth yr ymwelwyr a'n prif swyddogion ar daith o gwmpas yr ygol er mwyn gweld rhai o'r pethau rydym wedi eu cyflwyno yn yr ysgol e.e. 'Band yr Wythnos', 'Patrwm Iaith yr Wythnos', ein harddangosfeydd Siarter Iaith, awdur yr wythnos a'n dreigiau Seren a Sbarc ayyb.

Roedd yn bleser i'w croesawu i'n hysgol.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr