Trefniadau'r Wythnos:
19th May 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Y treiglad trwynol ar ol 'fy' e.e. 'fy nhrwyn', 'fy mhotel' and 'fy mwyd'.
Band yr Wythnos:
Band yr Wythnos yw ‘Yr Eira.'
Byddwn yn gwrando ar 'Yr Euog' a 'Suddo'.
Dydd Llun:
Gweithdy Diogelwch ar y Ffordd - disgyblion blwyddyn 2.
Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6) £1
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
(09:10 yn neuadd yr ysgol.)
Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 o 3:30 - 4:30.
(Mae llythyr wedi cael ei ddanfon adref.)
Ymarfer côr o 3:30 - 4:30.
Dydd Mercher:
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30. (£1)
Ymarfer i'r disgyblion sy'n gwneud y Cwis Lyfrau. (3:30 - 4:30)
Mae'r disgyblion sy'n aros wedi derbyn llythyr.
Cystadleuaeth Hoci yn Stadiwm Cwmbrân o 3 tan 4:45.
(Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)
Dydd Iau:
Bydd rhai disgyblion yn mynd i Wyl Gwyl y Gelli heddiw.
(Mae'r rhai sy'n mynd wedi derbyn llythyr.)
Sesiwn 'Mindfulness' ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 5 a 6 heddiw.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.
Clwb pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Gwers hoci blwyddyn 6.
DIWRNOD OLAF YR HANNER TYMOR. BYDD WYTHNOS O WYLIAU A BYDD Y DISGYBLION YN DYCHWELYD I'R YSGOL AR DDYDD MAWRTH, MEHEFIN 6ED.
Diolch yn fawr.