Trefniadau'r Wythnos:
11th May 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Wythnos cerdded i'r ysgol. Os ydych yn cerdded i'r ysgol yn ystod yr wythnos, cofiwch ddanfon 'Tweet' atom. (@ygcwmbran) **
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Byddwn yn edrych ar y defnydd cywir o ‘Mae ..... gyda fi', yn hytrach na 'Fi'n cael' ayyb.
e.e. Mae brechdanau gyda fi.
Band yr Wythnos:
Band yr Wythnos yw ‘Y Reu'.
Byddwn yn gwrando ar 'Haf' a 'Mhen i'n troi' yn y dosbarthiadau.
Dydd Llun:
Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6) £1
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
(09:10 yn neuadd yr ysgol.)
Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 o 3:30 - 4:30.
(Mae llythyr wedi cael ei ddanfon adref.)
Ymarfer côr o 3:30 - 4:30.
Dydd Mercher:
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30. (£1)
Ymarfer i'r disgyblion sy'n gwneud y Cwis Lyfrau. (3:30 - 4:30)
Mae'r disgyblion sy'n aros wedi derbyn llythyr.
Dydd Iau:
Bydd sesiynau 'Mindfulness' yn dechrau ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 5 a 6 heddiw.
(Mae'r disgyblion wedi derbyn llythyr.)
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.
Clwb pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Diolch yn fawr.