Gweithdy Diogelwch y Ffordd Blwyddyn 1:
11th May 2017
Daeth Kate, Swyddog Diogelwch y Ffordd Torfaen, i gynnal gweithdy gyda blwyddyn 1 heddiw.
Mae diogelwch ar y ffordd yn bwnc pwysig iawn ac mae'n bwysig iawn ein bod yn addysgu'r plant am ddiogelwch ar y ffordd o oedran ifanc iawn.
Daeth Kate i drafod diogelwch heddiw er mwyn addysgu'r disgyblion am ffyrdd o edrych ar ol eu hunain ar y ffordd wrth gerdded, mynd ar gefn beic neu wrth deithio mewn car neu ar fws.
Mae'n bwysig i drafod y pethau hyn adref gyda'ch plentyn / plant yn ogystal.
Diolch yn fawr.