Trefniadau'r Wythnos:
4th May 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Bydd clybiau ar ôl ysgol yn ail dechrau yr wythnos hon. **
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Byddwn yn edrych ar y defnydd cywir o ‘yw’, yn hytrach na ‘yn y’ e.e. ‘hwn yw fy motel’, dim ‘hwn yn fy motel’.
Band yr wythnos:
Band yr wythnos yw ‘Yr Ods’. Byddwn yn gwrando ar ‘Y bêl yn rowlio’ a ‘Nid teledu oedd y bai’.
Dydd Llun:
Prawf i ddisgyblion ym mlynyddoedd 2 i 6.
Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6) £1
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
(09:10 yn neuadd yr ysgol.)
Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 o 3:30 - 4:30.
(Mae llythyr wedi cael ei ddanfon adref.)
Ymarfer côr o 3:30 - 4:30.
Dydd Mercher:
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30. (£1)
Dydd Iau:
Bydd PC Thomas yn ymweld â disgyblion blwyddyn 6 heddiw yn cyflwyno gweithdy ar gyffuriau yn dilyn y ddrama, 'Adenydd i Hedfan'.
Bydd Swyddog Diogelwch y Ffordd Torfaen yn ymweld â phlant blwyddyn 1 heddiw i drafod diogelwch ar y ffordd.
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.
Clwb pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Dydd Gwener:
Diwrnod o hwyl ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 2 i 6 i ddathlu eu holl waith caled.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Diolch yn fawr.