Cywaith Ail-gylchu yr ysgol:
4th May 2017
Rydyn ni, fel ysgol, eisiau codi ymwybyddiaeth y disgyblion am ail-gylchu.
Rydym wedi creu murlun yn y neuadd ac ein bwriad ni yw i lenwi’r murlun gyda thopiau poteli gwahanol liwiau.
Y lliwiau rydyn ni eu hangen yw: coch, oren, melyn, gwyn, glas, gwyrdd tywyll a gwyrdd golau. (Gweler y llun.) Rydym yn gobeithio gorffen y murlun erbyn dydd Gwener y 9fed o Fehefin. Os oes topiau poteli gyda chi adref, danfonoch nhw mewn i’r ysgol dros yr wythnosau nesaf a bydd yr eco-bwyllgor yn eu casglu.
Does dim ots os oes patrymau arnyn nhyw – byddwn yn eu gludo i lawr.
Diolch yn fawr,
Yr Eco-bwyllgor a Chyngor yr ysgol.