Trefniadau'r Wythnos:
28th April 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Byddwn yn canolbwyntio ar y defnydd cywir o 'Roeddwn i' yn hytrach na 'oedd fi' a 'Doeddwn i ddim'.
Band yr wythnos:
Euros Childs fydd band yr wythnos. Byddwn yn gwrando ar 'Sandalau' a 'Bore Da' yn ystod yr wythnos.
* Does dim clybiau ar ôl wythnos yr wythnos hon, ar wahân i 'Clwb Plant y Tri Arth'. *
(Bydd clybiau'n ail ddechrau yn ystod yr wythnos yn dechrau Mai 8fed.)
** Bydd y profion cenedlaethol yn dechrau'r wythnos hon ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 2 i 6. **
Dydd Llun:
Gwyl y Banc.
(Does dim ysgol i'r disgyblion heddiw.)
Dydd Mercher:
Prawf Darllen Cymraeg i ddisgyblion ym mlynyddoedd 2 i 6.
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.
Dydd Iau:
Prawf Mathemateg i ddisgyblion ym mlynyddoedd 2 i 6.
Dim gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.
Dydd Gwener:
Prawf Darllen Saesneg i ddisgyblion ym mlynyddoedd 4 i 6.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Diolch yn fawr.