Trefniadau'r Wythnos:
6th April 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos ar ôl Pasg yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Byddwn yn canolbwyntio ar y defnydd cywir o 'Roeddwn i' yn hytrach na 'oedd fi'.
Band yr wythnos:
Gwibdaith Hen Frân fydd band yr wythnos. Byddwn yn gwrando ar 'Coffi Du' a 'Car bach fi' yn ystod yr wythnos.
* Does dim clybiau ar ôl wythnos yr wythnos hon, ar wahân i 'Clwb Plant y Tri Arth'. *
(Bydd clybiau'n ail ddechrau yn ystod yr wythnos yn dechrau Mai 8fed.)
Cofiwch nad ydym yn derbyn arian ar gyfer cinio ysgol o heddiw ymlaen; bydd angen talu ar lein.
(Gweler y llythyr.)
Bydd angen talu arian ffrwyth ar gyfer y tymor heddiw os gwelwch yn dda. (£4.60)
Dydd Llun:
Diwrnod Hyfforddiant Staff.
(Does dim ysgol i'r disgyblion heddiw.)
Dydd Mercher:
Bydd disgyblion blwyddyn 4 yn mynd i Lyfrgell Cwmbrân heddiw.
(Bydd y ddau ddosbarth yn yr ysgol ar gyfer cinio.)
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.
Cystadleuaeth Hoci ar ôl ysgol.
(Stadiwm Cwmbrân rhwng 3 a 5. Mae'r rhai sy'n chwarae wedi derbyn llythyr.)
Dydd Iau:
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i weld 'Adendydd i Hedfan' yn Theatr y Congress heddiw.
(Llythyr i ddilyn ar ôl Pasg. Bydd y disgyblion yn ôl yn yr ysgol erbyn amser cinio.)
Cystadleuaeth Pêl-droed Merched yr Urdd.
Stadiwm Cwmbrân rhwng 10:30 a 2:30.
(Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn derbyn llythyr ar ôl y Pasg.)
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.
Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Diolch yn fawr.