Trefniadau'r Wythnos:
30th March 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Patrwm Iaith yr Wythnos:
(Byddwn yn parhau gyda phatrwm iaith wythnos diwethaf.)
Byddwn yn edrych ar ateb cwestiynau'n gywir e.e.
Wyt ti'n hoffi ....? Ydw / Nac ydw.
Oes .... gyda ti? Oes / Nac oes.
Ai dy un di yw hwn? Ie / Nage
Band yr wythnos:
Y bandana: Byddwn yn gwrando ar y caneuon 'Cân y tân' a 'Dim byd tebyg' yn y dosbarth.
* Wythnos Gwerthoedd: Gwahoddwn rieni / gwarchodwyr mewn i'r ysgol yn ystod yr wythnos er mwyn gweithio gyda'r disgyblion. Gweler yr amserlen isod. *
Dydd Llun:
Sesiwn Gwerthoedd:
9:30 - 10:15: Dosbarthiadau Miss Heledd Williams a Miss Westphal.
1:30 - 2:15: Dosbarthiadau Miss Broad a Miss Griffiths.
Cystadleuaeth Rygbi a phel-rwyd yr Urdd.
(Ysgol Gyfun Cwm Rhymni drwy'r dydd. Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)
Gwersi Addysg Gorfforol Superstars ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 heddiw.
Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6) £1
Dydd Mawrth:
Dim gwasanaeth 'Disgybl yr Wythnos'.
Sesiwn Gwerthoedd:
9:30 - 10:15: Dosbarth Miss Faulknall.
1:30 - 2:15: Dosbarthiadau Miss Hughes a Mrs Dalgleish.
Cystadleuaeth Pel-droed Heddlu Gwent.
Stadiwm Cwmbrân. (Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)
Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 o 3:30 - 4:30.
Ymarfer côr o 3:30 - 4:30.
Dydd Mercher:
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Wynllyw ar gyfer helfa drysor o 10 - 2 heddiw. Gwisg ysgol os gwelwch yn dda. (Bydd angen pwmp asthma ar y rhai sy'n dioddef o asthma.)
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30. (£1)
Dydd Iau:
Sesiwn Gwerthoedd:
9:30 - 10:15: Dosbarthiadau Miss Thomas a Miss Emery.
1:30 - 2:15: Dosbarthiadau Miss Sheppeard a Miss Osborne.
Sesiynau Creadigol Ffa La La gyda disgyblion blynyddoedd 3 a 4.
Gwyl Rygbi Merched yn Stadiwm Cwmbrân.
(Mae'r rhai sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.
Clwb pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Dydd Gwener:
Gall disgyblion dosbarth Miss Westphal wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Mawrth.
Diwrnod ola'r tymor. Byddwn yn gorffen heddiw ar gyfer pythefnos o wyliau Pasg.
(Bydd y disgyblion yn dechrau'n ol yn yr ysgol ar ddydd Mawrth, Ebrill 25ain.)
Sesiwn Gwerthoedd:
9:30 - 10:15: Dosbarthiadau Miss Passmore a Mr Bridson.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Diolch yn fawr.