Trefniadau'r Wythnos:
23rd March 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Byddwn yn edrych ar ateb cwestiynau'n gywir e.e.
Wyt ti'n hoffi ....? Ydw / Nac ydw.
Oes .... gyda ti? Oes / Nac oes.
Ai dy un di yw hwn? Ie / Nage
Band yr wythnos:
Super Furry Animals.
Dydd Llun:
Prynhawn agored ar gyfer rhieni / gwarchodwyr blwyddyn 2.
1:30 - 3. Croeso mawr i bawb - gweler y llythyr yn rhan 'Llythyron Adref' y wefan.
Gwersi Addysg Gorfforol Superstars ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 heddiw.
Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6) £1
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
(09:10 yn neuadd yr ysgol.)
Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 o 3:30 - 4:30.
Ymarfer côr o 3:30 - 4:30.
Dydd Mercher:
Prynhawn agored ar gyfer rhieni / gwarchodwyr blwyddyn 1.
1:30 - 3. Croeso mawr i bawb - gweler y llythyr yn rhan 'Llythyron Adref' y wefan.
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30. (£1)
** Dim ymarfer yr ymgom ar ôl ysgol. **
Ymarfer dawnsio disgo ar ôl ysgol. (3:30 - 4:30.)
Dydd Iau:
Sesiynau Creadigol Ffa La La gyda disgyblion blynyddoedd 3 a 4.
Taith blynyddoedd 3 i Lyfrgell Cwmbrân.
(Bydd y disgyblion yn yr ysgol i fwyta cinio. Bydd angen cot law ar bob un os gwelwch yn dda.)
Bydd yr WRU yn cynnal sesiwn hyfforddi gyda merched blwyddyn 5 heddiw. (11:15 - 12)
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.
Clwb pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Eisteddfod ddawns ar ôl ysgol.
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
(Byddwn yn danfon llythyr adref ar ôl i ni dderbyn yr wybodaeth gan yr Urdd.)
Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Dydd Sadwrn:
Eisteddfod Sir yr Urdd. Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
(Byddwn yn danfon llythyr adref ar ôl i ni dderbyn yr wybodaeth gan yr Urdd.)
Diolch yn fawr.